Ap BBC Cymru Fyw
- Cyhoeddwyd

Mae fersiwn newydd o ap BBC Cymru Fyw nawr ar gael. Mae'n addas ar gyfer ffonau a thabledi iPhone ac Android ac mae'n rhad ac am ddim. Dyma'r lle delfrydol i gael y newyddion a'r diweddaraf o Gymru, mewn un lle, yn Gymraeg.
Os oes gennych chi'r ap yn barod, peidiwch â phoeni, fydd dim angen i chi wneud dim - bydd yr ap yn diweddaru'n awtomatig. Os nad ydyw'n gwneud hynny, yna dilynwch y dolenni ar dop yr erthygl i lawrlwytho'r fersiwn newydd.
Dyma'r adrannau sydd i'w gweld ar yr ap:
- Prif Straeon - y prif straeon newyddion
- Cylchgrawn - erthyglau nodwedd, darnau barn, blogiau, orielau lluniau a llawer mwy
- Gwleidyddiaeth - hynt a helynt y byd gwleidyddol yng Nghymru
- Ardaloedd - y newyddion lleol o ranbarthau Cymru
- Radio - cyfle i wrando ar eich hoff raglenni ar BBC Radio Cymru
Mae llif byw dyddiol Cymru Fyw hefyd ar gael ar yr ap (sef y diweddaraf o Gymru mewn llif o bytiau a dolenni i wefannau amrywiol). Gallwch ei ddilyn drwy dapio ar y stori 'YN FYW' yn yr adran Prif Straeon.
Gallwch hefyd gyfrannu, drwy anfon eich straeon, negeseuon a lluniau yn syth at BBC Cymru Fyw. Gwnewch hyn drwy dapio ar y botwm 'Cysylltwch â ni' yn yr ap, neu drwy e-bostio [email protected]
BBC Cymru Fyw
Mae popeth ar flaenau eich bysedd (ac yn eich poced) gydag ap BBC Cymru Fyw.