Pwy oedd Dwynwen?
Mi fydd pobl ar draws Cymru yn dathlu diwrnod Santes Dwynwen ar 25 Ionawr. Mi fydd cardiau yn cael eu danfon, prydau bwyd rhamantus yn cael eu bwyta a llwyau caru yn cael eu rhoi i gariadon. Ond pam ydyn ni'n dathlu'r diwrnod yma? Pwy oedd Dwynwen? Pam ei bod hi'n cael ei hystyried fel Santes y Cariadon?
Dwynwen, ferch Brychan Brycheiniog
Efallai byddwch yn synnu o glywed nad oedd Dwynwen wedi cael llawer o lwc mewn cariad ei hun!
Mae hanes Dwynwen yn mynd yn ôl i'r pumed ganrif ac fel cynifer o hen straeon poblogaidd mae sawl fersiwn o'i hanes. Yn ôl y sôn, roedd Dwynwen yn ferch i'r brenin Brychan Brycheiniog ac yn dod o Aberhonddu yn wreiddiol. Mae rhai'n dweud bod gan Brychan 24 merch a fersiynau eraill o'r hanes yn awgrymu bod ganddo 36 merch. Roedd Dwynwen yn cael eu hystyried fel yr harddaf o holl ferched Brychan - felly tipyn o gamp!
Syrthiodd Dwynwen mewn cariad gyda Maelon, mab i frenin arall. Roedd y ddau am briodi ond roedd gan ei thad gynlluniau eraill. Roedd Brychan Brycheiniog eisoes wedi trefnu iddi briodi rhywun arall. Rhedodd Dwynwen i'r goedwig wedi ei siomi a gweddïo ar Dduw i'w rhyddhau hi o'r cariad.
Tri dymuniad
Daeth angel i ymweld â hi gan roi diod arbennig iddi i anghofio am Maelon ac i'w droi'n dalp o rew. Wedi hyn ymddangosodd Duw a chynnig tri dymuniad iddi.
- Yn gyntaf, roedd Dwynwen eisiau dadmer Maelon.
- Yn ail, mynnodd bod Duw yn helpu pob pâr o wir gariadon.
- Yn olaf dymunodd na fyddai hi byth yn priodi.
Ynys Llanddwyn
Wedi i'r dymuniadau gael eu gwireddu fe aeth Dwynwen i fyw ar ynys bellennig a sefydlu lleiandy. Gelwir yr ynys yn Ynys Llanddwyn ('Llan' sef Eglwys a 'dwyn' ar ôl Dwynwen).
Roedd ffynnon ger yr eglwys ac mae'n debyg bod ynddi bysgodyn oedd yn gallu darogan dyfodol cyplau. Pe bai cyplau yn mynd yno a bod y dŵr yn berwi yna byddent yn cael lwc dda. Daeth yr eglwys a'r ffynnon yn safle pererindodau canoloesol.
Gellir gweld adfeilion y lleiandy ar yr ynys o hyd.
Felly os ydych chi'n dathlu diwrnod Santes Dwynwen trwy roi carden, llwy garu, neu wrth gael pryd o fwyd rhamantus, cofiwch am hanes Dwynwen ar ynys Llanddwyn.