Y ddynes ddysgodd 1,000 o Gofis sut i forio

  • Cyhoeddwyd
ellen edwards

Os oedd darpar longwyr yn ardal Caernarfon am ddysgu sgiliau fel llywio yn yr 19eg ganrif, mae'n debyg y byddai llawer ohonyn nhw wedi mynd i'r ysgol forwrol yn y dre.

Ond yn anghyffredin iawn yn y dyddiau hynny, dynes oedd yng ngofal y coleg, sef Ellen Edwards (1810-1889) a oedd yn ferch i gyn-gapten llong o Amlwch.

Ar raglen Post Prynhawn ar ddydd Mercher, 30 Tachwedd, fe siaradodd Dylan Jones gyda Gwyn Roberts o ganolfan Galeri yng Nghaernarfon am Ellen Edwards, ac sut maen nhw'n gobeithio talu teyrnged iddi.

Mae canolfan Galeri yng Nghaernarfon am gomisiynu darlunydd i greu delwedd gyfoes o ferch all gynrychioli mam, chwaer a merch, wedi ei ysbrydoli gan Ellen Edwards.

"Mi gafodd hi ei geni a'i magu yn Amlwch ar Ynys Môn. Roedd ei thad hi, William Francis, yn gapten llong llwyddiannus, ond yn 1814 fe benderfynodd roi'r gorau i'r môr a sefydlu ysgol fordwyo yn Paris Lodge Square, Amlwch," eglura Gwyn Roberts, prif weithredwr Galeri.

"Mae'n siŵr yng nghwmni ei thad y gwnaeth Elen ddysgu llawer o'i gwybodaeth fordwyo."

"Yn 1830 ac hithau ond rhyw 20 oed fe wnaeth hi symud i Gaernarfon i fyw, ac oedd hwnnw ar y pryd yn borthladd oedd yn tyfu ac yn brysur iawn yn sgil y chwareli llechi. Nath hi setlo yng Nghaernarfon ac yn fanno bu hi fyw trwy gydol ei hoes wedyn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Caernarfon yn 1868, pan oedd Ellen Edwards yn dysgu canoedd o forwyr y dref

Mae'n debyg mai yn 34 Stryd Newydd agorodd Ellen yr ysgol forwrol, yn fuan wedi iddi setlo yn y dref.

"Does 'na'm lot o wybodaeth amdani yn uniongyrchol i ddweud gwir- mae'r wybodaeth sy'n dod ynglŷn â'i gŵr hi oedd yn gapten llong, fel ei thad," esboniai Gwyn.

"Roedd 'na lot o dystiolaeth am ei gwaith hi'n dod gan y bobl oedd hi wedi ei ddysgu dros y blynyddoedd. Mae'n debyg bod hi wedi hyfforddi dros 1,000 o forwyr yn sgiliau morwrol dros y cyfnod oedd hi'n gweithio, a oedd bron yn hanner canrif."

Bu farw ei gŵr, y Capten Owen Edwards, ar y môr yn 1860.

Daeth ei myfyrwyr o ardal eang, gan gynnwys Caernarfon, Ynys Môn a Phen Llŷn. Bob blwyddyn yn y 1850au, 60au a'r 70au pasiodd tua 30 o'i myfyrwyr arholiadau Byrddau Morol Lloegr, yr Alban ac Iwerddon.

Cynorthwyodd ei merch, Ellen Francis Edwards, yn yr ysgol (priododd hithau gapten llong hefyd).

Delwedd gyfoes

Mae canolfan Galeri yn bwriadu nodi cyfraniad Ellen Edwards i hanes tref Caernarfon, ond mae bwriad hefyd i'w dyfu fel rhan o brosiect ehangach.

"Mae'n bwysig i gofnodi gwaith Ellen Edwards" meddai Gwyn Roberts, "ac yn enwedig ar adeg hynny pan oedd 'na ddim llawer o ferched yn cael unrhyw fath o gyfle i neud pethau fel hyn. Dwi'n meddwl bod hi'n bwysig i gydnabod ei chyfraniad hi.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Tref Caernarfon fel y mae heddiw.

"Mae 'na lot o ofodau gwag yng Nghaernarfon, lle mae pobl 'di anghofio amdanyn nhw, pethau anghofiedig ydyn nhw. Ac 'dan ni'n trio creu cynllun sy'n gosod hunaniaeth, hanesion a storïau pobl y dref yn y gofodau 'ma.

"Mi fysa hwnna'n gallu bod yn furlun, yn rywbeth aml-synhwyrol, neu'n defnyddio golau neu blanhigion - neu cyfuniad o betha fel 'na. Mae'n rhywbeth sydd yn cyfeirio a chodi edrychiad y dref, ond hefyd ma'n cofnodi ein hunaniaeth ni fel pobl sydd yn byw yma, o'n safbwynt ni."

Straeon y 'dref i gyd'

"Mae 'na ddwy gynllun peilot ar y gweill - Ellen Edwards 'di un, ac mae 'na gynllun arall fyny yn stad Bro Seiont ar gyrion Ysgubor Goch. O ran y cynllun ei hun mae'n sbanio'r dref i gyd, nid jest canol y dref.

"'Dan ni'n gobeithio fydd y ddau gynllun peilot wedi gorffen toc wedi'r flwyddyn newydd, ac 'dan ni wedi rhoi ceisiadau i fewn i gael arian datblygu i 'neud tri neu bedwar o rai eraill, ac fydden ni yn gwneud galwadau wedyn i bobl ddod ymlaen efo storïau, a chysylltu'r straeon 'na efo artistiaid er mwyn iddyn nhw gael eu dehongli nhw ar gyfer rhywfath o ymyrraeth yn y gofodau."

Bu farw Ellen, yn 79 oed, yn ei chartref, 13 Stryd y Degwm. Yn ôl un adroddiad papur newydd "Hi oedd athrawes y morwyr mwyaf llwyddiannus yng Ngogledd Cymru am y cyfnod hir o 60 mlynedd."

Hefyd o ddiddordeb: